P-06-1230 Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rob Shill, ar ôl casglu cyfanswm o 64 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae llawer o bobl nad ydynt yn gwybod ble mae eu diffibriliwr agosaf.
Pe bai diffibriliwr wedi'i osod y tu allan i bob ysgol ar giât / ffens / wal allanol, yna byddai pawb yn gwybod, pe bai angen diffibriliwr arnynt, dim ond edrych am eu hysgol agosaf fyddai ei angen arnynt i ddod o hyd i’r offer hanfodol hwn.
Ni ddylid cyfyngu mynediad at ddyfeisiau mewn lleoliadau pan fydd y sefydliad ar agor yn unig.
Mae mynediad cyhoeddus 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos yn hanfodol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Aberafan
· Gorllewin De Cymru